Cor Meibion Caernarfon Male Voice Choir

Hanes y Côr

imageSefydlwyd y Côr yn 1967 gan gwmni bychan o weithwyr yn ffatri Ferodo ar gyrion tref Caernarfon. Mae ffatri Ferodo wedi hen ddiflannu a’r côr bellach yn cynnwys cylch eang o alwedigaethau fel cyfreithwyr, athrawon, heddweision, peirianwyr, ffermwyr a phobl wedi ymddeol. Daw’r aelodau o dref Caernarfon a chylch eang o amgylch. Mae pob aelod yn medru siarad Cymraeg. Bu’r côr ar nifer o ymweliadau tramor llwyddiannus ym Mhrydain, Iwerddon, Cyfandir Ewrop a Gogledd America ac mae gofyn parhaus iddo gynnal cyngherddau ymhell ac agos.

Cafodd y Côr lwyddiannau niferus mewn cystadlaethau corawl dros y blynyddoedd, yn cynnwys naw buddugoliaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Llyfryn Dathlu 50fed Pen-blwydd

Cliciwch yma i lawrlwytho'r llyfryn fel PDF.

Cysylltwch â ni

Rhys ab Elwyn (Ysgrifennydd y Côr)
Rhif Ffôn: 01286 675371
Ebost: rhysabelwyn@btinternet.com

Polisi Preifatrwydd

Hawlfraint © 2024 Côr Meibion Caernarfon. Gwefan gan Delwedd