Côr
 

Mae pob côr yng Nghymru yn taeru mai nhw ydi’r gorau, ac felly hefyd Gôr Meibion Caernarfon. Ond os heriwch chi farn Cofis Dre’, mae ganddyn’ nhw ddadl go gref – fe wnan’ eich atgofa iddynt ennill y gwpan mewn tair Eisteddfod Genedlaethol yn olynol rhwng 1994 ac 1996, ac ennill saith gwaith i gyd yn y gystadleuaeth ...mwy

Sefydlwyd Côr Meibion Caernarfon yn Ffatri Ferodo yn 1967, ond mae’r cysylltiad â’r ffatri bellach wedi dod i ben. Mae’r aelodau yn awr yn cynnwys peirianwyr, plismyn, cyfrifwyr, swyddogion llywodraeth leol, ffermwyr, athrawon, crefftwyr, a nifer sydd wedi ymddeol, oll yn mwynhau cystadlu a chynnal cyngherddau, gan ymarfer yn galed bob nos Fawrth o fewn tafliad carreg i gastell hynafol y dref.

Photograph courtesy of Wyn, Lluniau Llwyfan - wyn@lluniaullwyfan.com

Yr arweinydd presennol yw Menai Williams. Ers iddi gymryd yr awenau ym 1993, bu’n gyfnod llwyddianus dros ben yn gystadleuol. Yn ogystal â llwyddianau’r Eisteddfod Genedlaethol, mae’r côr wedi ennil cystadleuaeth Stena Sealink yn Llandudno ym 1996 a 1999. Gan barhau’r cyswllt Celtaidd, croeswyd i’r Ynys Werdd ac ennill cystadleuaeth ryngwladol Gwyl Gorawl Sligo ym 1995.

Mae’n gôr poblogaidd iawn ymysg cymdeithasau Cymraeg ledled Lloegr, gan gymryd rhan mewn cyngherddau Gwyl Ddewi mewn mannau fel Llundain, Birmingham, Manceinion, Bradford, Gillingham, Bury St. Edmunds, a Tunbridge Wells. Pleser i’r cymdeithasau hyn yw canfod fod pob aelod o Gôr Meibion Caernarfon yn siarad Cymraeg. Mae’r côr hefyd wedi teithio llawer i gynnal cyngherddau ar gyfandiroedd Gogledd America ac Ewrop.

Mewn sawl cystadleuaeth lwyddiannus cyfeiriodd y beirniaid at ddawn cyfeilydd y côr, Mona Meirion Richards.  Roedd hi a Menai yn bennaeth a dirprwy adran Gerdd Ysgol Uwchradd Syr Hygh Owen, Caernarfon, y ddwy yn amlwg yng nghylchoedd Cerdd Dant, a’r ddwy wedi derbyn anrhydedd uchaf gwisg wen yr Orsedd yn Eisteddfod Meirion a’r Cyffuniau 1997, i gydnabod eu cyfraniad aruthrol i’r diwylliant Cymreig.

Llywydd Anrhydeddus Côr Meibion Caernarfon yw’r bariton o Bantglas, Bryn Terfel. Yn laslanc dwy ar hugain oed bu ar daith gyda’r hogiau hyd arfordir dwyreiniol Unol Daleithiau’r America.  Meddai Bryn: “Mae’r côr yn llysgenhadon ardderchog dros Gymru a’r Gymraeg ble bynnag yr ânt, ac mae nhw’n medru canu rhywfaint hefyd!







English | Croeso | Sain | Lluniau | Gwybodaeth | Ymholiadau

ysg@corcaernarfon.co.uk Tell a friend