Cyf. Cerdd
 

Mrs Menai Williams B.A.

Ganwyd yn Nyffryn Clwyd, magwyd ym Meirionnydd, ond bellach wedi ymgartrefu yn Nyffryn Ogwen. Graddiodd mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, a bu’n athrawes gerdd yn ysgolion Uwchradd Dyffryn Ogwen (Bethesda), Eifionydd (Porthmadog), ac hyd at ei ymddeoliad, Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon.

Mae wedi arbenigo ym maes Cerdd Dant, yn hyfforddi ac yn gosod i lawer iawn o unigolion a phartion, yn ogystal â beirniadu yn yr Eisteddfodau a Gwyliau Cenedlaethol.

Mae wedi bod yn gysylltiedig â chorau meibion, fel cyfeilydd ac arweinydd ers 1965: Côr Meibion y Penrhyn (1965 – 1973), Hogia’r Ddwylan (1966 – 1988) a Chôr Meibion Caernarfon ers 1993.

 




English | Croeso | Sain | Lluniau | Gwybodaeth | Ymholiadau

ysg@corcaernarfon.co.uk Tell a friend