Newyddion
 

Medi 2008 – Arweinyddes Newydd i’r Côr.
Ar yr 2il o Fedi dechreuodd Delyth Williams o’r Groeslon ger Caernarfon fel arweinyddes newydd ar y côr. Mae Delyth yn 29 ac yn athrawes gerdd yn Ysgol Eifionydd, Porthmadog. Gobeithiwn y bydd ei phrofiad o arwain a dysgu plant bach yn gymorth iddi tra yn ceisio cael trefn ar lond ystafell o hogia’r côr ( ambell un wedi dweud nad oes llawer o wahaniaeth !!!! )
( gweler y llun cyntaf o Delyth gyda rhai o hogia’r côr )

Gorffennaf 2008 – Cyngerdd olaf Menai Williams gyda’r Côr.
Y cyngerdd yn Landerne a’r recordiad gyda Bryn Terfel oedd y tro olaf i Menai Williams arwain y côr. Mae Menai wedi penderfynu ymddeol o swydd yr arweinydd wedi 15 mlynedd o arwain Côr Meibion Caernarfon. Mae ein diolch yn fawr iddi am yr hyn y mae hi wedi ei gyflawni gyda’r côr, gan ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol sawl gwaith, ond hefyd am godi safon cerddorol y côr cryn dipyn. O dan ei harweiniad mae Côr Meibion Caernarfon wedi dod yn enwog am y swn y mae y côr yn gallu ei gynhyrchu, ac edrychwn ymlaen i glywed ffrwyth ei llafur ar y CD newydd. ( gweler lluniau o’r noson olaf ar yr Albwm )

Gorffennaf 2008 – Recordio gyda Bryn Terfel, Caernarfon
I ddod a tymor y côr i ben yn Haf 2008 buom yn recordio can gyda Bryn Terfel fel unawdydd. Recordiwyd y gan yn ein ystafell ymarfer yn Galeri, Caernarfon a bydd ar y teledu rhywbryd yn yr Hydref.

Gorffennaf 2008 – Veterans Day Caernarfon
Fel y llynnedd cafodd y côr wahoddiad i ganu yn y ‘Veterans Day’ yng Nghaernarfon, sef diwrnod arbennig i goffau a dathlu ein lluoedd arfog.

Gorffennaf 2008 – Trip i Brest a Landerne yn Llydaw.
Rhwng y 10fed a’r 14eg o Orffennaf aeth y Côr ar daith i Llydaw, gan ymweld a dinas Brest a thref Landerne, sydd wedi ei gefeillio a Chaernarfon. Roeddem yn aros yn Brest a cawsom weld Brest2008 sef gwyl forawl gyda cannoedd o gychod o bob maint – diddorol iawn, ac wedyn buom yn cymeryd rhan mewn gwyl o ganu a dawnsio drwy strydoedd Landerne cyn canu mewn cyngerdd yn yr eglwys yn Landerne ( gan fynd ar y llwyfan am 11.45 y nos !!! ) Yn ystod y cyngerdd cannodd y Côr anthem Llydaw, sydd ar yr un dôn a Hen Wlad fy Nhadau. ( gweler lot o luniau yn yr Albwm )

http://www.brest2008.com/ - gwefan am y digwyddiad – yn Ffrangeg ac efallai yn Llydaweg
http://www.brest2008.fr/en/34-history - yn rhannol yn Saesneg
http://cy.wikipedia.org/wiki/Landerne

Mawrth hyd Gorffennaf 2008 - recordio CD newydd
Yn ystod y fwlyddyn mae’r côr wedi bod yn recordio caneuon ar gyfer CD newydd fydd allan cyn bo hir ( gweler lluniau ar yr Albwm )

Mehefin 2008 – Cyngerdd gyda Cor Merched y Rhos
Ar yr 21ain o’r mis cynhaliwyd cyngerdd yn Eglwys y Santes Fair, Caernarfon gyda Côr Merched y Rhos o Rhosllannerchrugog. Côr arbennig iawn yw Côr Merched y Rhos ac roedd canmoliaeth mawr i’r cyngerdd, ond braidd yn annodd yw dod o hyd i wybodaeth amdanynt ar y we – hen bryd iddyn nhw gael gwefan !! Cafwyd noson hwyliog iawn yn y Clwb Hwylio yng Nghaernarfon wedyn.

Mai 2008 – Cyngerdd yn Wordsley
Cyfle arall i gynnal cyngerdd yn Wordsley. Mae’r Côr wedi cael sawl gwahoddiad i’r ardal hon i ganu ac fel arfer roedd yr eglwys ( a’r car park ) yn llawn i’r ymylon. Cawsom noson ddiddorol iawn mewn tafarn leol wedyn gyda tomen o ‘chips’ i fwyta. ( gweler lluniau yn yr Albwm )

Ebrill 2008 – Cyngerdd y Samariaid
Gan fod un o hogia’r côr yn gweithio i’r Samariaid, trefnodd gyngerdd i’w cefnogi, a cymerodd y côr ran gyda Band Pres Ieuenctid Gwynedd a Môn, band ifanc arbennig iawn, o safon uchel.

http://www.gwynedd.gov.uk/gwy_doc.asp?cat=5817&doc=21222 - manylion am y band.

Mawrth 2008 – Cyngerdd yn Swindon
Cynhaliwyd cyngerdd llwyddianus iawn yn Swindon gyda Côr Meibion Swindon ac wedyn cafwyd noson o ganu gan y ddau gôr mewn gwesty lleol, cyn cychwyn ar y siwrne hir adref y diwrnod canlynol. Mae Côr Meibion Swindon am ddod i Gaernarfon i ganu yn 2009. ( gweler lluniau yn yr Albwm )

http://www.swindonmalevoicechoir.co.uk/

Chwefror 2008 – Cyngerdd yn yr Amwythig
Cynhaliwyd cyngerdd yn y Music Hall yn yr Amwythig ar y 23ain o Chwefror i ddathlu Dydd Gwyl Dewi. Yr unawdwyr oedd y tenor Robin Lyn Evans a’r soprano Gwawr Edwards, gyda ei chwaer Menna Rhys Griffiths yn cyfeilio. Cafwyd noson hwyliog iawn wedyn yng nghwmni Cymry yr Amwythig ac hefyd y tenor enwog Dafydd Edwards, sef tad Gwawr a Menna.

http://www.boomtalent.co.uk/index.pl?rm=profile;id=21;l=c - Proffil o Gwawr
http://www.bbc.co.uk/cymru/eisteddfod2007/sites/lluniau-sadwrn2/pages/lluniau_sadwrn.shtml?12 - Robin Lyn

Chwefror 2008 – Cyngerdd Dathlu y Côr yn 40 oed
I ddathlu penblwydd y Côr yn 40, trefnwyd cyngerdd arbennig yn Galeri, Caernarfon ar yr 2il o’r mis gyda unawdwyr o’r safon uchaf, sef David Kempster Bariton, a Sarah-Jane Davies, Soprano â’r cyfeilydd arbennig Annette Bryn Parri.

Wedi ei geni yn Ne Cymru, cafodd Sarah ei haddysg cynnar yng Nghaernarfon. Mae’n soprano gyda dyfodol disglair o’i blaen a bu yn cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth ‘Cardiff Singer of the World’ yn 2007.

http://www.bbc.co.uk/wales/mid/halloffame/arts/sarahjane_davies.shtml
http://www.bbc.co.uk/wales/cardiffsinger/sites/2007/pages/wales.shtml

Mae David Kempster sydd yn dod o’r Waen (Chirk ) yng Ngogledd Cymru hefyd wedi cynrychioli Cymru yn y ‘Cardiff Singer of the World’ yn 1999 ac yn ddiweddar bu yn canu mewn cyngerdd i ddathlu Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

http://www.eisteddfod-ryngwladol.co.uk/latest-news/press-releases/2008-eisteddfod-launch/
http://www.hazardchase.co.uk/artists/david_kempster

Mae’r côr yn hen gyfarwydd a’r cyfeilydd Annette Bryn Parri gan ein bod wedi canu ar yr un llwyfan a hi sawl gwaith, ac mae hi yn un o’r cyfeilyddion gorau yn y wlad.

http://cy.wikipedia.org/wiki/Annette_Bryn_Parri
http://www.caernarfonherald.co.uk/lifestyle-leisure/entertainment-news/2008/07/31/annette-bryn-parri-and-dylan-cernyw-release-cd-88817-21444244/

Bu’r cyngerdd yn llwyddiant mawr, ac yn awr edrychwn ymlaen at gyngerdd i ddathlu’r hanner cant !!!

Ionawr 2008 – Cinio Dathlu y Côr yn 40 oed
Ar y 19eg o Ionawr daeth pawb oedd yn gysylltiedig a’r Côr ynghyd yng ngwesty y Celtic Royal yng Nghaernarfon i ddathlu penblwydd y Côr yn 40. Cafwyd noson lwyddianus iawn gyda bwyd bendigedig, ac wedyn cyflwynwyd tystebau i aelodau a oedd wedi bod gyda’r Côr ers y dechrau, ac i’r Arweinyddes a’r Gyfeilyddes. Y siaradwr gwadd oedd Winstone Roddick C.B., Q.C. sydd yn un o Is-Lywyddion y Côr. Ar ddiwedd y noson ac ar ol iddynt orffen eu cyngerdd yn y Galeri daeth Côr Rhuthun i ymuno a ni a cafwyd noson hwyliog iawn o gyd-ganu i ddathlu ein penblwydd. ( gweler lluniau ar y dudalen Albwm )

Rhagfyr 2007 – Cyngerdd Nadolig Rotary Caernarfon
Ar y 7fed o Ragfyr cynhaliwyd cyngerdd i ddathlu’r Nadolig yn Eglwys Santes Fair, Caernarfon dan nawdd Clwb Rotari y dref. Diddanwyd y gynulleidfa hefyd gan Côr Cofnod sef côr merched o ardal Caernarfon a gan yr unawdydd ..

Hydref 2007 - Diddanu Cynhadledd yn Venue Cymru, Llandudno
Ar yr ail o Hydref bu'r côr yn diddanu tua 400 o bobl o'r diwydiant twristiaid oedd wedi dod i gynhadledd yn Venue Cymru, Llandudno ar wahoddiad y Cynulliad.  Roedd pobl yna o bob rhan o'r byd ac roedd ganddynt ddiddordeb mawr mewn dysgu mwy am y côr a'r traddodiad corawl yng Nghymru.  ( gweler y dudalen albwm )
Gwefan Venue Cymru : http://www.venuecymru.co.uk/home.php?/Conference

Medi 2007 – Cyngerdd yn Eglwys y Santes Fair, Betws y Coed
Ar ddiwrnod olaf Medi bu’r cor yn canu yn y cyngerdd blynyddol y Eglwys y Santes Fair, Betws y Coed, i gloi eu cyfres o gyngherddau corawl, ac fel arfer roedd yr eglwys yn llawn, yn cynnwys ymwelwyr o 14 o wledydd er engraifft Awstralia, America, Seland Newydd ac eraill. Dioch i’n unawdydd Meinir Roberts, cantores ifanc gyda llais arbennig iawn. Am ychydig o luniau gweler y dudalen albwm, ac i’r rhai ohonoch sydd ddim yn gyfarwydd a’r ardal hardd o gwmpas Betws y Coed dyma dudalenau gwe sydd yn disgrifio’r ardal.
http://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddorllewin/safle/betwsycoed/pages/lluniau.shtml?4
http://www.croeso-betws.org.uk/index.htm
http://www.betws-y-coed.net/churches.htm
http://www.snowdoniaguide.com/betws_y_coed.html

Medi 2007 – Cyngerdd gyda Côr Meibion Bedyddwyr Tennessee
Ar yr 22ain o Fedi bu Côr Meibion Bedyddwyr Tennessee yn canu gyda’n côr ni mewn cyngerdd mawreddog yn Neuadd Pritchard Jones ym Mangor. Mae’r côr yn cynnwys aelodau o ardal faith ar draws talaith Tennessee, ac er nad ydynt yn ymarfer gyda’u gilydd dim mwy na 4 gwaith bob blwyddyn roedd swn arbennig iawn ganddynt. Bu’r côr ar daith am rhyw 10 diwrnod ar draws Gogledd Cymru yn canu mewn sawl capel ac mewn cyngherddau gyda Côr Meibion y Traeth a Côr Meibion y Rhos hefyd. Roedd yr hogia wedi eu synnu o glywed trefnydd eu taith yn siarad gyda’n côr ni mewn Cymraeg pur er ei fod yn Americanwr, ac wedyn o weld bod y rhaglen a clawr eu CD yn hollol ddwy-ieithog Cymraeg a Saesneg – da iawn fo ! (gweler lluniau) ac am fwy :- http://www.tnbaptist.org/page.asp?cat=music&subcat=menschor
neu am fwy fyth :- http://www.tmcwales.blogspot.com/

Gorffennaf 2007 – Diwrnod y ‘Veterans’ yng Nghaernarfon
Ar y 14eg o Orffennaf roedd tref Caernarfon yn llawn o gyn-aelodau o’r Lluoedd Arfog yn dathlu diwrnod arbennig y ‘Veterans Day’ i gofio am bawb fu yn rhan o’r lluoedd hyn dros y blynyddoedd. Cynhaliwyd Gwasanaeth awyr agored yng nghwmni Maer Caernarfon a nifer o wahoddedigion eraill cyn symud ymlaen i babell arbennig ar y Cei Llechi lle bu’r côr yn diddanu y gynulleidfa ( gweler y dudalen Albwm )

Gorffennaf 2007 – Cyngerdd gyda Cor L’Essenelle o Wlad Belg
Ar y 13eg o Orffennaf daeth Cor L’Essennelle o dref Esneux ger Liege yng Ngwlad Belg i ganu yn Eglwys Santes Fair yng Nghaernarfon. Cafodd y côr ei sefydlu yn 1961 ac yn 1977 daeth yn rhan o “A Coer Joie” a dewis yr enw L’Essennelle. Mae’r cor yn canu cymysgedd o gerddoriaeth glasurol, crefyddol, gwerinol, traddodiadol a jazz. Ar ôl y cyngerdd cawsom glywed mwy o’r côr yn canu gyda’n hogia ni yn y Clwb Hwylio, a diolch i’r clwb am baratoi swper bendigedig. ( gweler y dudalen Albwm )

Mehefin 2007 – Cyngerdd gyda Band y Gwarchodlu Cymreig
Ar yr 28ain o Fehefin bu’r côr yn cymeryd rhan mewn cyngerdd gyda Band y Gwarchodlu Cymreig yn Galeri, Caernarfon. Bu’r cyngerdd yn rhan o’r ‘Welsh Guards Band Kape Tour’ ac roedd yn llwyddiant mawr gyda’r gynulleidfa. Gweler mwy o sôn am y daith gan y band ar eu gwefan - cliciwch yma

Mehefin 2007 - Noson Gymdeithasol yn lle Vernon
Ar y 16eg o Fehefin cawsom noson gymdeithasol i'r côr yn 'lle Vernon' sef Llain Meddygon ac mae'n diolch yn fawr i Vernon ( ail Denor ) am llnau'r sied ddefaid a pharatoi lleoliad mor addas.
Cawsom fwyd bendigedig ( Rhostio Mochyn ) ac adloniant gan Hogia'r Bonc, sef criw o hogia o ardal Bethesda sydd yn canu caneuon gwerin a phoblogaidd Cymraeg. Gweler www.hogiarbonc.com i ddysgu mwy amdanynt. Diolch hefyd i Walt ( ail denor yn ein cor ni ac aelod o Hogia'r Bonc ) am ddod a'r hogia i ganu.

CD Newydd cyn bo hir
Mae’r Côr wedi dechrau ar y broses o recordio cryno-ddisg newydd, ac rydym wedi recordio y caneuon cyntaf yn Eglwys Llanberis – gobeithiwn gael y CD allan yn y siopau cyn bo hir.

Noson Hwyliog gyda Côr o Norwy - Mai 2007
Ar ddechrau Mai daeth côr cymysg o Langhus yn Norwy ar daith i Brydain a’i ymweliad cyntaf oedd efo tref Caernarfon. Roeddent wedi gofyn am gael cyfarfod hogia ein côr ni a’r noson honno cawsom noson hwyliog iawn o ganu yng ngwesty y Stables, Llanwnda. Pwy a wyr efallai y cawn ni wahoddiad i Norwy rhywbryd. (cliciwch yma i weld y lluniau)

Cadeirydd a Pwyllgor Newydd - 2007
Yn dilyn y Cyfarfod Blynyddol yn ddiweddar etholwyd Pwyllgor newydd a Chadeirydd newydd i’r côr.

Cadeirydd – Owain Wyn
Etholwyd Owain Wyn ( Bâs 1 ) i fod yn Gadeirydd am y ddwy flynedd nesaf.

Yn wreiddiol o Ynys Môn mae Owain Wyn wedi ei hyfforddi fel Cynllunydd Trefol ac mae yn awr yn gweithio ar ei liwt ei hun yng Nghaernarfon fel Ymgynghorydd Busnes. Mae Gwasanaethau Ymgynghorol Owain Wyn
yn cynnig “amrediad o wasanaethau ymgynghoriaeth i fusnes, sector wirfoddol a chyrff cyhoeddus gan gynnwys cynllunio strategol, marchnata, a gwerthuso prosiectau”

ebost – owainwyn@globalnet.co.uk

Mae’n aelod ffyddlon o’r côr ers blynyddoedd ac yn awr mae ganddo ddwy flynedd brysur o’i flaen gan fod y côr yn dathlu 40 mlynedd ers ei sefydlu eleni ac mae llawer o ddathliadau ganddom ar y gweill dros y ddwy flynedd nesaf.

 

Cadeirydd - Owain Wyn
Prif Swyddogion y Côr Pwyllgor y Côr
Prif Swyddogion y Côr
Pwyllgor y Côr

O’r chwith –

O’r chwith yn y cefn –
Irfon Roberts, Dafydd John Williams, Wynford Lloyd Davies, Richard E. Jones, Gwynfor Alun Jones, Dafydd Les Hughes, Ieuan Williams.

O’r chwith rhes flaen –
Douglas Williams, Wilfred Jones, Donald Roberts, Owain Wyn, Dafydd John Jones, Alwynne T. Jones, Robin Griffiths, a Vernon Jones (absennol)

Dydd Gwyl Dewi y 1af o Fawrth 2007 Cyngerdd Canolfan Bro Llanwnda
Ar Ddydd Gwyl Dewi eleni cawsom gyngerdd yng Nghanolfan newydd Bro Llanwnda a adeiladwyd yn ddiweddar. Roedd yn noson llwyddianus iawn gyda’r côr yn canu gyda dau unawdydd, sef Casi Wyn ar y delyn. Cawsom groeso a gwledd fendigedig gyda swyddogion y ganolfan ar ôl y cyngerdd.

Yn dilyn llwyddiant y noson, mae’r côr wedi penderfynu ceisio trefnu nifer o Gyngherddau Bro yn y dyfodol, mewn neuaddau o gwmpas Caernarfon.

Newyddion am y daith i Sweden - Hydref 2006
Dychwelodd hogia’r Cor yn ddiweddar o daith braf iawn i Linköping a Stockholm yn Sweden, lle roeddym yn canu mewn cyngerdd yn y Missionskyrkan yn Linköping. Cawsom gymorth gan Sioned Webb fel cyfeilyddes a Dafydd Huw fel unawdydd ar y delyn. Hoffai’r Cor ddiolch i’r ddau ohonom am eu gwaith gwych, ac i Sioned yn arbennig am lenwi i mewn ar y munud olaf. Lluniau'r daith - cliciwch yma

Canmol mawr ar y Côr - Ebrill 2006
Bu ‘na ganmol mawr ar y Côr yn ddiweddar yn dilyn ei ymddangosiadau ar lwyfan a theledu. Ar Ebrill 1af fe ymddangosodd y Côr gyda Bryn Terfel, Catrin Finch ac eraill ar noson agoriad swyddogol Y Galeri (galericaernarfon.com).Fe ganodd dwy gân gan gynnwys Caernarfon – wyt ti fwy n thref i mi. Ac ar nos Sadwrn Ebrill 30ain fe ganodd y Côr y gân eto ar raglen Noson Lawen S4C.



 

English | Croeso | Sain | Lluniau | Gwybodaeth | Ymholiadau

Dyluniwyd gan Delwedd