Iaith: Cymraeg | English

Y Cyfarwyddwr Cerdd

Mrs Delyth Humphreys
Arweinyddes Cor Meibion Caernarfon ers 2008 yw Mrs Delyth Humphries o’r Groeslon ger Caernarfon.
Cafodd Delyth ei haddysg yn Ysgol Dyffryn Nantlle ger Caernarfon, ac wedyn astudiodd Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor ar gyfer ei gradd BMus.
Daeth yn Bennaeth Cerddoriaeth yn Ysgol Eifionydd, Porthmadog yn 2001 ac mae’n hyfforddi plant o’r ysgol bob blwyddyn i ganu yn Eisteddfod yr Urdd ac yn yr Wyl Gerdd Dant, lle maent wedi cael cryn lwyddiant.
Bu Delyth yn chwarae’r sacsoffon yn Band Cyngerdd y Brifysgol , ac hefyd tra yn y coleg bu’n cyfeilio ar y piano i Gor Meibion Dyffryn Nantlle.