Cor Meibion Caernarfon Male Voice Choir

Croeso i wefan Côr Meibion Caernarfon

Côr Meibion Caernarfon yw un o gorau meibion mwyaf llwyddiannus Cymru. Rydym wedi perfformio yn rhai o neuaddau cyngerdd gorau Prydain, yn cynnwys Neuadd Albert, Neuadd Symffoni Birmingham a Neuadd Dewi Sant Caerdydd. Rydym wedi ennill y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru naw gwaith. Mae’r côr wedi teithio a pherfformio’n eang ym Mhrydain, Iwerddon, cyfandir Ewrop a Gogledd America.

Mae ein repertoire yn amrywiol a phoblogaidd. Rydym yn canu mewn llawer o ieithoedd, ond yn bennaf yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ein Noddwr yw’r bas bariton byd enwog, Bryn Terfel.

Mae’r Côr yn ymarfer bob Nos Fawrth heblaw yn Awst am 7.30pm yn Galeri, Caernarfon. Daw llawer o ymwelwyr i wrando a mwynhau. Os hoffech ddod i un o’r ymarferiadau neu os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r côr, cysylltwch a ni neu galwch heibio. Cewch groeso cynnes bob amser.

Beth am roi gwahoddiad i’r Côr gadw cyngerdd yn eich ardal chi ? Anfonwch eich manylion atom a bydd ein Ysgrifennydd yn cysylltu â chi i drafod ein telerau a’r trefniadau.

Ymuno â'r Côr

Hanes y Côr

Dysgu mwy

Cysylltwch â ni

Rhys ab Elwyn (Ysgrifennydd y Côr)
Rhif Ffôn: 01286 675371
Ebost: rhysabelwyn@btinternet.com

Polisi Preifatrwydd

Hawlfraint © 2024 Côr Meibion Caernarfon. Gwefan gan Delwedd