NODDWR ANRHYDEDDUS:
Syr Bryn Terfel, Bontnewydd
Neges a dderbyniwyd gan Syr Bryn Terfel, Noddwr Anrhydeddus, ar achlysur 50fed penblwydd y côr:
Llongyfarchiadau i bawb sydd yn gysylltiedig â Chôr Meibion Caernarfon ar ddathlu hanner can mlynedd ar y brig.
Yn 1988, cefais wahoddiad i ymuno â chi fel unawdydd ifanc, 22 mlwydd oed, ar daith hynod ddiddorol o arfordir dwyreiniol yr Unol Daleithiau – profiad amhrisiadwy yn nyddiau cynnar fy ngyrfa. Yna yn 1992, fe wnaethoch fy ngwahodd i fod yn unawdydd yn eich cyngerdd pen-blwydd yn bump ar hugain mlwydd oed yn Neuadd Pritchard Jones Bangor.
Rydym wedi canu gyda’n gilydd amryw o weithiau dros y blynyddoedd, mewn llefydd fel Neuadd Symffoni Birmingham, yn fy nghyngerdd “Bryn Terfel a Chyfeillion” yn y Neuadd Fawr Aberystwyth, ac i lawr y ffordd yng Ngŵyl y Faenol.
Mae’r côr wedi gwneud cyfraniad hir a gwerthfawr i gerddoriaeth gorawl yng Nghymru - mewn cyngherddau ac eisteddfodau, ac fel comisiynwyr darnau gan gyfansoddwyr cyfoes Cymreig.
Pleser o’r mwyaf oedd derbyn y gwahoddiad i ddod yn “Noddwr Anrhydeddus” i’r côr yn 1997. Ardderchog Delyth, Mona a’r aelodau presennol i gyd, heb anghofio cyfraniad eich rhagflaenwyr at hanes anrhydeddus y côr. Pob lwc am yr hanner can mlynedd nesaf!
Syr Bryn Terfel
Gorffennaf 2017
LLYWYDD:
IS-LYWYDDION:
Iolo W. Thomas (Ysgrifennydd y Côr)
Bodafon
Ffordd y Gogledd
Caernarfon
LL55 1BE
Rhif Ffôn: 01286 675333
ebost: iolowatcyn@gmail.com
Hawlfraint © 2023 Côr Meibion Caernarfon. Gwefan gan Delwedd