Cor Meibion Caernarfon Male Voice Choir

Newyddion

GWEFAN NEWYDD CÔR MEIBION CAERNARFON YN RHAN O YMGYRCH I DDENU AELODAU NEWYDD

Mae Côr Meibion Caernarfon wedi lansio gwefan newydd sbon, gyda’r cyfeiriad www.cormeibioncaernarfon.org yn aros yr un peth ag o’r blaen.

Meddai Alwynne Jones, Cadeirydd y Côr: “Un o brif nodau’r wefan newydd yw denu aelodau newydd. Mae’n egluro mor hawdd yw ymuno â chantorion tre’r Cofis, a’r croeso a’r pleser a geir o wneud hynny.

“Rydym hefyd am weld mwy o bobl leol ac ymwelwyr yn dod i’n hymarferiadau. Byddwn yn cwrdd am 7.45pm bob nos Fawrth yn Galeri, Caernarfon. Mae’r adloniant yn gwbl ddi-dâl a bydd pawb yn mynd adref gydag atgofion melys, yn enwedig os ydynt yn prynu CD!”

Ychwanegodd Cadeirydd y Côr: “Mae cwmni Delwedd wedi gwneud gwaith gwych yn diweddaru’n gwefan. Mae’n gweithio’n slic ac yn dangos pob agwedd ar waith y côr.”

Meddai Aled Roberts, un o gyfarwyddwyr cwmni Delwedd, sydd hefyd un o is-lywyddion Côr Meibion Caernarfon: “Defnyddiwyd y dechnoleg ddiweddaraf wrth lunio’r wefan newydd fel ei bod yn gweithio’n hwylus ar gyfrifiadur, llechen neu ffôn symudol.

“Fel cwmni o’r dref, gyda’n swyddfa yn Galeri, rydym yn falch dros ben o’n cysylltiad hir â Chôr Meibion Caernarfon.”

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


TAITH WANWYN I GUERNSEY YN DERBYN NAWDD SYLWEDDOL GAN GYD SEFYDLYDD CWMNI SPECSAVERS

Diolch i gysylltiadau personol un o’r aelodau, mae Côr Meibion Caernarfon yn cynllunio taith gyffrous i Guernsey dros y cyfnod 25-29 Ebrill 2019. Gwneir hynny gyda chymorth cyd sefydlydd cwmni Specsavers - y nawdd mwyaf a dderbyniodd y côr ers ei sefydlu 51 mlynedd yn ôl.

Bydd hogia’r dre yn hedfan i Guernsey ar wahoddiad Côr Meibion Cymry’r ynys, gan aros tair noson yn Saint Peter Port. Yn ystod yr ymweliad bydd y ddau gôr yn cydganu mewn cyngerdd mawreddog yn neuadd hardd y St James Concert Hall er budd elusen leol.

Gwnaed y cysylltiad gan Guto Roberts, un o ail denoriaid Côr Meibion Caernarfon, a mab i Lywydd y côr, Dr Huw Roberts. Treuliodd Guto bedair blynedd yn gweithio yn Guernsey fel nyrs cyn dychwelyd i’w fro enedigol.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


CYNGERDD NADOLIG CORAU CAERNARFON YN CASGLU £1,243 I AMBIWLANS AWYR CYMRU

Transatlantic Concert Raises £913 for the Wales Air AmbulanceCasglwyd £1,243 i elusen Ambiwlans Awyr Cymru mewn cyngerdd Nadolig llwyddiannus yn Eglwys y Santes Fair Caernarfon ar 7 Rhagfyr 2018 lle canwyd carolau gan bedwar o gorau tre’r Cofis: Côr Dre, Côr Cofnod, CôrNarfon a Chôr Meibion Caernarfon.

Mae’r corau yn eu tro yn trefnu’r digwyddiad blynyddol a chydgordiwyd y cyngerdd hwn gan Gôr Meibion Caernarfon. Cytunodd y pedwar côr i gyflwyno’r elw i Ambiwlans Awyr Cymru.

Ar nos Fawrth 8 Ionawr 2019, daeth Alwyn Jones, Cydlynydd Gwynedd, Ambiwlans Awyr Cymru i ymarfer cyntaf Côr Meibion Caernarfon wedi toriad y Nadolig i dderbyn yr arian.

Meddai: “Diolch i’r pedwar côr am eu haelioni. Codwyd y swm enfawr o £1,243 - cyfraniad gwerthfawr tuag y £6.5 miliwn y flwyddyn yr ydym ei angen i gadw ein pedair hofrennydd yn hedfan ym mhob rhan o Gymru."

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


CANU GERBRON EU CYNULLEIDFA FWYAF ERIOED

Cyflwyno £935.00 i Hosbis yn y Cartref Gwynedd a Môn

Côr Meibion Caernarfon yw'r rhai mewn cotiau glas!

Brynhawn Sadwrn 10 Tachwedd bu Côr Meibion Caernarfon yn canu yn Stadiwm y Principality, Caerdydd i ddiddanu’r dorf cyn gêm rygbi Cymru ac Awstralia. Roedd y gêm hon yn un o uchafbwyntiau cyfres ryngwladol yr Hydref a bonws ychwanegol oedd fod Cymru wedi curo Awstralia am y tro cyntaf mewn deg mlynedd a 13 gêm!

Roedd y Cofis yn chwifio’r faner dros Ogledd Cymru yng nghwmni tri chôr meibion o’r de, dan arweiniad Dr Haydn James, Cyfarwyddwr Cerdd Undeb Rygbi Cymru. Y corau eraill oedd Llanymddyfri, Tadau Trisant o Bontyclun a’r Gentlemen Songsters o Donyrefail.

Roedd yr eitemau’n cynnwys caneuon cyfarwydd i’r dorf fel Calon Lân, Delilah a Waltzing Matilda. Yna arweiniwyd canu’r ddwy anthem genedlaethol, Hen Wlad fy Nhadau ac Advance Australia Fair.

Meddai Cadeirydd Côr Meibion Caernarfon, Alwynne T Jones, “Roedd yn fraint fawr cael ein dewis i ganu cyn y gêm. Dyma’r dorf fwyaf inni ganu iddynt erioed.

“Roedd yr arweinydd Dr Haydn James wedi ei blesio’n arw gyda safon y canu a osododd y safon, meddai, ar gyfer corau eraill. Gobeithio hefyd inni wneud ein pwt i godi ysbryd tîm Cymru a’u sbarduno i fuddugoliaeth.

“Fel bonws ychwanegol, ar Nos Wener 9 Tachwedd, buom yn canu mewn cyngerdd yng Nghapel Salem, Treganna, Caerdydd ar wahoddiad Côr Meibion Taf. Roedd pawb yn canmol safon y cyngerdd a braf oedd cwrdd â hen ffrindiau yn yr adloniant answyddogol wedyn yng Nghanolfan y Chapter gerllaw.”


Pontio'r Iwerydd er budd Ambiwlans Awyr Cymru

Pontio'r Iwerydd er budd Ambiwlans Awyr CymruCasglwyd dros £900 i elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn Eglwys y Santes Fair Caernarfon mewn cyngerdd oedd yn pontio’r Iwerydd. Unodd Côr Meibion Caernarfon o Gymru gyda’r University of Northern Iowa Men’s Glee Club o Unol Daleithiau America i helpu’r achos da.

Yna, nos Fawrth diwethaf 12 Mehefin, daeth Alwyn Jones, Cydlynydd Gwynedd, Ambiwlans Awyr Cymru i ymarfer wythnosol hogia Caernarfon yn Galeri, Caernarfon i ddiolch i’r ddau gôr am yr arian.

Meddai “Roedd yr eglwys yn llawn dop a chasglwyd £913 - cyfraniad gwerthfawr tuag y £6.5 miliwn y flwyddyn yr ydym ei angen i gadw ein pedair hofrennydd yn hedfan ym mhob rhan o Gymru.”

Ychwanegodd, “Cafwyd perfformiadau rhagorol gan y ddau gôr. Gorffennwyd trwy iddynt gydganu’r emyn Cwm Rhondda, hefo’r myfyrwyr Americanaidd wedi dysgu geiriau’r pennill cyntaf yn y Gymraeg.”

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Côr o'r UDA yn helpu Ambiwlans Awyr Cymru

Nos Sul 20 Mai am 7.00pm bydd côr enwog yr University of Northern Iowa Men’s Glee Club yn canu yn Eglwys Fair Caernarfon fel rhan o daith i Gymru ac Iwerddon.

Gyda chefnogaeth Côr Meibion Caernarfon, hwn fydd trydydd perfformiad y cerddorion ifanc yng Nghymru, yn dilyn cyngherddau yn Abergele ar 18 Mai gyda Chôr Cytgan Clwyd a Llandudno ar 19 Mai gyda Chôr Meibion Colwyn.

Ni fydd tâl mynediad i gyngerdd Caernarfon ond gwneir casgliad at Ambiwlans Awyr Cymru. Bydd mynediad drwy docyn, sydd ar gael ymlaen llaw oddi wrth Ambiwlans Awyr Cymru, aelodau Côr Meibion Caernarfon neu siop lyfrau Palas Print Caernarfon. Bydd unrhyw docynnau sbâr ar gael wrth y drws cyn y cyngerdd.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Arddangosfa Hanner Canrif Côr Meibion Caernarfon

Cliciwch yma i weld y lluniau


Cyngerdd 50 Mlwyddiant, Galeri, Caernarfon
Nos Wener 14 Gorffennaf 2017

(Lluniau: Geraint Thomas, Panorama-Cymru)

Cliciwch yma i weld y lluniau


CD newydd - Hanner Can Mlynedd ar y Brig

Côr Meibion Caernarfon yn Dathlu eu Penblwydd yn 50

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Gweithgareddau 2017

21.01.17 Cinio Blynyddol. Gwesty’r Celt, Caernarfon

25.02.17 Cyngerdd RNCM Manceinion

21.03.17 Cyfarfod Blynyddol

27.04.17 - 01.05.17 Taith Cernyw

25.06 17 Capel y Drindod, Llandudno

14.07.17 Cyngerdd Penblwydd 50, Galeri, Caernarfon

12.08.17 Yr Eisteddfod Genedlaethol, Bodedern, Môn

24.09.17 Santes Fair, Betws y Coed

15.10.17 Cyngerdd gyda Cor Treverva, Cernyw yn Ysgol Brynrefail

10.11.17 Cinio Dathlu Penblwydd 50, Gwesty’r Celt, Caernarfon

01.12.17 Cyngerdd Nadolig, Santes Fair, Caernarfon


06.02.17 - CÔR MEIBION CAERNARFON YN 50 OED

Trwy gydol 2017 bydd Côr Meibion Caernarfon yn dathlu ei 50fed pen blwydd.

Meddai’r Cadeirydd, Bryn Griffith o Lanllyfni, “Ffurfiwyd y côr yng Nghantîn Ffatri Ferodo ar lannau’r Fenai ar 5 Tachwedd 1967. Caeodd y ffatri, ond rydym ni’n dal yma o hyd!

“Buom yn canu ar brif lwyfannau Prydain a theithio’n helaeth yn Ewrop a Gogledd America. Cawsom lu o wobrau, yn cynnwys naw buddugoliaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Dros y blynyddoedd bu gennym naw arweinydd a chwe chyfeilydd. Mae tri o’r aelodau gwreiddiol yn dal yn y rhengoedd.

“Ein cyfarwyddwr cerdd presennol yw Delyth Humphreys, darlithydd cerddoriaeth yn Adran Addysg Prifysgol Bangor. Ymhlith ei rhagflaenwyr mae Menai Williams, Gareth Huws Jones, Bill Evans a’r diweddar Haydn Wyn Davies - pob un ohonynt fel Delyth wedi gosod eu stamp a meithrin safonau uchel.

Cliciwch yma i ddarllen mwy.

Archif Newyddion - cliciwch yma

Cysylltwch â ni

Iolo W. Thomas (Ysgrifennydd y Côr)
Bodafon
Ffordd y Gogledd
Caernarfon
LL55 1BE

Rhif Ffôn: 01286 675333
ebost: iolowatcyn@gmail.com

Polisi Preifatrwydd

Hawlfraint © 2023 Côr Meibion Caernarfon. Gwefan gan Delwedd