Beth am ymuno â Chôr Meibion Caernarfon?
'Rydym yn canu ym mhob rhan o Brydain a thu hwnt, yn perfformio ar lwyfannau enwog ac yn cael lot fawr o hwyl. Er mwyn i'r llwyddiant barhau rydym yn awyddus i groesawu aelodau newydd – aelodau o bob oed, ond yn arbennig cantorion ifanc. Gorau oll os ydych yn darllen cerddoriaeth – hen nodiant neu sol ffa – ond oes dim rhaid. Mae nifer o'n haelodau yn perthyn i fwy nag un côr.
Byddwn yn ymarfer rhwng 7.30 a 9.30 bob nos Fawrth drwy'r flwyddyn, heblaw gwyliau ysgolion. Mae croeso i bawb ddod i'r ymarfer yn y Galeri, Caernarfon. Bydd cynulleidfa dda yn dod yn aml i wrando ar yr ymarferion. Dewch i weld dros eich hun. Cysylltwch â'r Ysgrifennydd (info@cormeibioncaernarfon.org) i gadw lle cyn teithio.
Mae'r broses ymuno yn hawdd a 'does dim gwrandawiad ffurfiol lle byddwch yn canu ar eich pen eich hun. Yn hytrach, ar ôl canfod eich llais, boed o'n tenor neu bas, cewch eich gosod rhwng dau ganwr profiadol am tua mis. Os ydyn nhw'n fodlon eich bod yn dod yn eich blaen yn dda (ac yn canu mewn tiwn!), cewch wahoddiad i ymuno. Gan y Cyfarwyddwr Cerdd y mae'r gair olaf.
Am y 6 mis cyntaf fel aelod llawn ni fydd unrhyw dâl aelodaeth, a bydd yr holl gerddoriaeth a gwisg y Côr ar gael i chi eu defnyddio yn ystod ein perfformiadau.
Dewch atom - wnewch chi ddim difaru. Mae canu yn dda i'ch iechyd, ac fe wnewch lawer o ffrindiau da!
YMWELD
|
Mae yna nifer o feysydd parcio Talu ac Arddangos yng nghyffiniau'r Galeri ac hefyd un neu ddau am ddim fin nos.
Rhys ab Elwyn (Ysgrifennydd y Côr)
Ebost: info@cormeibioncaernarfon.org
Hawlfraint © 2026 Côr Meibion Caernarfon. Gwefan gan Delwedd