18.07.16 Rhodd o £785 i British Heart Foundation Cymru
Yn ymarfer wythnos hon yn Galeri Caernarfon, derbyniodd Tudor Ellis, Cadeirydd Cangen Leol BHF Cymru, siec oddi wrth Alwynne Jones, Trysorydd Côr Meibion Caernarfon. Meddai Tudor Ellis, “Llwyddodd y cyngerdd yn Eglwys y Santes Fair, Caernarfon, i godi’r swm ardderchog o £785 tuag at ein gwaith yn lleol ac ymchwil pwysig i glefyd y galon – lladdwr mwyaf Cymru.” Ychwanegodd Bryn Griffith, Cadeirydd Côr Meibion Caernarfon, “Roedd yr eglwys yn llawn, cafodd y ddau gôr groeso brwd a helpwyd achos lleol teilwng yr un pryd. Roedd pawb ar eu hennill.” |
07.06.16 Cyflwyno siec am £500 i elusen ganser Macmillan Yng nghinio blynyddol Côr Meibion Caernarfon yng Ngwesty’r Celt Caernarfon casglwyd £500 i elusen ganser Macmillan. Ac mewn ymarfer diweddar cyflwynwyd siec am y swm hwnnw i Eleri Brady, Rheolwr Codi Arian Macmillan Gogledd Cymru. Trefnwyd yr ocsiwn a’r raffl lwyddiannus yn y cinio blynyddol gan Douglas Williams a Gareth Thomas o adran y tenoriaid uchaf, gyda chymorth y bariton Edwin Williams. Wrth ddiolch i’r côr dywedodd Eleri Brady, “Bydd pob ceiniog yn mynd tuag at waith Macmillan yng Ngogledd Cymru. Rhwng pob dim, mae’n costio tua £27 yr awr i gyflogi nyrs Macmillan ac mae gennym dros 50 nyrs yn gweithio yng Ngogledd Cymru a Chanolfan Wybodaeth yng nghyntedd Ysbyty Gwynedd, Bangor.” Meddai Delyth Humphreys, Cyfarwyddwr Cerdd Côr Meibion Caernarfon, “Mae Doug, Gareth ac Edwin yn gweithio’n galed i sicrhau ein bod hefyd yn codi arian at achosion da wrth fwynhau ein hunain yn gymdeithasol. Braf oedd medru cydnabod gwaith ardderchog Macmillan eleni.” ![]() Cyflwyno siec am £500 i Macmillan – chwith i’r dde: Edwin Williams, Gareth Thomas, Eleri Brady (Rheolwr Codi Arian Macmillans Gogledd Cymru), Douglas Williams, Delyth Humphreys (Cyfarwyddwr Cerdd) a Mona Meirion Richards (Cyfeilydd y Côr) ![]() Bwrdd y Werin - yn cael amser da! ![]() Ymhlith yr eitemau codi arian roedd trol bren hardd a luniwyd gan y tenor uchaf, Dei Ellis o Drefor ![]() Bwrdd y Swyddogion - yn cynnwys Arweinydd, Llywydd, Ysgrifennydd, Cyfeilydd a Chadeirydd y Côr |
10.12.15 - Cyflwyno £935.00 i Hosbis yn y Cartref Gwynedd a Môn
Aeth holl elw’r noson i Hosbis yn y Cartref Gwynedd a Môn ac, yn ymarfer olaf Côr Meibion Caernarfon cyn y Nadolig, cyflwynwyd bwced o arian yn cynnwys £935.00 i Ruth Gilford, trefnydd lleol yr elusen. Meddai Ruth Gilford, “Diolch i bawb a gymrodd ran – Côr Meibion Caernarfon, Côr Cofnod, Côr Dre, y ffliwtydd Megan Hunter, yr organydd Steven Parry a’r darllenwyr oll. Bydd yr arian yn hwb mawr i’n gwaith o ofalu am gleifion gyda chanser neu salwh sydd yn byrhau bywyd.” Meddai Bryn Griffith, Cadeirydd Côr Meibion Caernarfon “Daeth Clwb Rotari’r dref i ben yn ystod y flwyddyn a chymerwyd drosodd y trefniadau gennym ni. Gweithiodd ein His Gadeirydd, Dafydd Jones, tu hwnt o galed i wneud yn siŵr fod y cyngerdd poblogaidd yn parhau.” Meddai Dafydd Jones, “Roedd codi bron i fil o bunnoedd at Hosbis yn y Cartref yn gwneud y cyfan yn werth chweil.” |
09.11.15 - Côr Meibion Caernarfon yn sicrhau fod traddodiad yn parhau Un o draddodiadau Caernarfon ers rhai blynyddoedd yw cynnal Cyngerdd Nadolig Elusennol ar ddechrau Rhagfyr yn Eglwys hardd y Santes Fair sy’n ffurfio rhan o hen furiau’r dref. Fe’i trefnwyd gan Glwb Rotari Caernarfon ond gyda’r gangen honno bellach wedi cau, roedd perygl i’r Cyngerdd Nadolig hefyd ddod i ben. Yn ffodus, camodd Côr Meibion Caernarfon i’r bwlch ac mae’n braf cyhoeddi y cynhelir y cyngerdd unwaith eto eleni – ar Ddydd Gwener 4 Rhagfyr am 7.30pm. Yn cymryd rhan bydd Côr Meibion Caernarfon, Côr Cofnod a Chôr Dre ynghyd â Megan Hunter yn canu’r ffliwt a darlleniadau Nadoligaidd eu naws. Y pris mynediad fydd £5 gyda’r elw’n mynd at Hosbis yn y Cartref - Gwynedd ac Ynys Môn. Gellir cael tocynnau gan aelodau’r tri chôr, ac ar y drws ar y noson. Meddai Bryn Griffith, Cadeirydd Côr Meibion Caernarfon; “Byddai wedi bod yn biti i’r traddodiad hwn fynd ar ddifancoll. Yn ffodus iawn, mae Is-Gadeirydd y côr, Dafydd Jones, wedi gweithio’n galed i’w drefnu yn ein henw ni, fel ag y gwnaeth lawer tro yn enw’r Rotari. “Bydd patrwm eleni yn debyg i’r arfer, ond hoffwn feddwl yn y dyfodol y bydd corau a chymdeithasau eraill Caernarfon a’r cylch yn trefnu’r cyngerdd yn eu tro gan osod eu stamp eu hunain ar y digwyddiad poblogaidd.” Meddai Dafydd Jones, “Dwi’n falch iawn fod Côr Meibion Caernarfon wedi camu i’r bwlch eleni er mwyn gwneud yn siŵr fod traddodiad Cyngerdd Nadolig Eglwys y Santes Fair yn parhau. Hwn, yn wir, yw dechrau dathliadau’r Nadolig i lawer.” |
09.11.15 - Dau gôr mewn harmoni unwaith eto Ar nos Sadwrn 30 Mai 2015 cafwyd cyd gyngerdd llwyddiannus dros ben yn Theatr Seilo Caernarfon gan Gôr Meibion Croydon a Chôr Meibion Caernarfon gyda’r holl elw’n mynd i Gafael Llaw, yr elusen lleol canser plant. Ar nos Sadwrn 21 Tachwedd 2015 bydd y return leg, fel pe tae, gyda Chôr Meibion Caernarfon yn canu yn eglwys hardd St. Johns, Old Coulston, Croydon. Unwaith eto bydd y corau’n canu sawl darn gyda’i gilydd. Meddai Cadeirydd Côr Meibion Caernarfon, Bryn Griffith: “Mae dros hanner cant o aelodau’n teithio i Croydon a byddwn yn aros dwy noson yn yr ardal. Braf gweld cymaint o aelodau newydd ifanc ar daith, fel ag yr oedd yn ein cyngerdd llwyddiannus diweddar yn Northwich, Swydd Gaer. “Mae Côr Meibion Croydon yn disgrifio eu hunain ar eu gwefan fel “côr meibion mwyaf cyffrous De Lloegr”. Yn sicr, bydd hwn yn drip gwefreiddiol i bawb!” |
24.08.15 - Cor yn Gwefreiddio’r Byd! Cafodd Côr Meibion Caernarfon gymeradwyaeth fyddarol a dau encôr yn agoriad swyddogol Pencampwriaeth Hwylio Fireball y Byd 2015 ym Mhlas Heli, yr Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Ddigwyddiadau newydd ym Mhwllheli. Fe’u gwahoddwyd i ddiddanu’r morwyr, eu teuluoedd a ffrindiau ar noson agoriadol y bencampwriaeth nos Sadwrn diwethaf, 22 Gorffennaf. Mae’r bencampwriaeth wedi denu cystadleuwyr o bob rhan o’r byd i arfordir Llŷn. Meddai Gareth Roberts, Rheolwr Digwyddiadau Plas Heli ac un o denoriaid y côr, “Roeddem yn awyddus i roi blas ar ddiwylliant Cymru i’n gwesteion rhyngwladol ac roedd ymateb y gynulleidfa o tua 300 yn anhygoel o frwd – yn gwrthod gadael i’r côr adael y llwyfan!” Ychwanegodd Gareth, “Dyma’r ail gôr i ganu yma, a’r tro cyntaf i mi brofi’r acwsteg trwy ganu gyda’r côr. Roedd yn teimlo’n ardderchog – yn debyg iawn i eglwys. “Mi fydd Plas Heli yn lle grêt ar gyfer digwyddiadau cerddorol, fel cyngerdd Mynediad Am Ddim ym mis Medi eleni a’r Ŵyl Gerdd Dant a gynhelir yma yn Nhachwedd 2016.” Meddai Bryn Griffith, Cadeirydd Côr Meibion Caernarfon, “Diolch i Gareth a Phlas Heli am ein gwahodd i’r agoriad. ‘Roedd yn anrhydedd mawr cael bod yn rhan o’r digwyddiad a ‘dwi mor falch fod y gynulleidfa wedi eu plesio.” |
12.07.15 - Cyngerdd Haf Yn Eglwys Hynafol Llanengan Nos Sadwrn 25 Gorffennaf, bydd waliau eglwys hynafol Llanengan yn atseinio i leisiau Côr Meibion Caernarfon a thri unawdydd - tri Jones fel mae’n digwydd - Raymond, Annest a Glesni. Meddai un o’r trefnwyr, Dewi Roberts o Lanengan, “Gallwn ddisgwyl rhaglen o ganeuon poblogaidd a bydd elw’r cyngerdd er budd dau achos da dros ben, Ymddiriedolaeth Ynys Enlli ac Eglwys Plwyf Bro Enlli.” “Mae Eglwys Llanengan yn un o eglwysi harddaf Llŷn, yn edrych dros Borth Neigwl i gyfeiriad Ynys Enlli. Mae ei hacwsteg yn arbennig o dda, felly dewch yn llu i fwynhau noson gyffrous.” Ychwanegodd, “Bydd y cyngerdd yn dechrau am 7.00pm a’r tocynnau yn £10 yr un o Swyddfa’r Post Abersoch a’r Sun Inn, Llanengan, neu ffoniwch 01758 713893.” |
05.06.15 - Bryn yn parhau… Yn wahanol i arweinwyr ambell blaid wleidyddol, mynnodd aelodau Côr Meibion Caernarfon fod eu cadeirydd poblogaidd, Bryn Griffith, yn parhau yn ei swydd am gyfnod estynedig! Bu Bryn o Plas Felin Gerrig, Llanllyfni – Bryn Plas, fel y mae pawb yn ei adnabod - yn aelod o’r côr ers dros ugain mlynedd. Meddai, “Bu’n fraint cael arwain criw mor ymroddedig dros y ddwy flynedd ddiwethaf dan arweiniad ardderchog Delyth Humphreys a’n cyfeilydd, Mona Meirion Richards. “Mae datblygiadau diddorol ar y gweill a ‘dwi’n benderfynol ein bod yn dychwelyd i’r brig cystadleuol a chyngherddol. Bydd denu mwy fyth o aelodau newydd – yn arbennig cantorion profiadol – yn ein helpu i wneud hynny. …a Dafydd yn dychwelyd! Is Gadeirydd newydd Côr Meibion Caernarfon yw Dafydd John Jones. Ers ymddeol fel plismon sawl blwyddyn yn ôl, bu Dafydd yn aelod gweithgar o sawl sefydliad yn nhre’r Cofi, yn cynnwys y Rotari a’r Clwb Golff. Bu’n gadeirydd y côr ddwy waith o’r blaen. Meddai, “Ers dyddiau Ferodo, mae’r côr wedi rhoi Caernarfon ar y map am bron i 50 mlynedd. Mae’n cynnig llawer mwy na chanu – sef cyfeillgarwch. Ar dripiau pell ag agos, mewn cyngherddau mawr a bach, mae’r hwyl a’r boddhad yn donic!” |
14.05.15 - Dau gôr mewn harmoni at achos gwych Yn Theatr Seilo Caernarfon, ar nos Sadwrn 30 Mai 2015, bydd Côr Meibion Croydon a Chôr Meibion Caernarfon yn cynnal cyngerdd ar y cyd gyda’r holl elw er budd Gafael Llaw, yr elusen lleol canser plant. Ychwanegodd: “Mae pris y tocynnau ar gyfer cyngerdd Theatr Seilo yn fargen - dim ond £5 yr un – i’w cael oddi wrth Gafael Llaw, Palas Print Caernarfon ac aelodau Côr Meibion Caernarfon. Felly, dewch yn llu i fwynhau canu da a helpu gwaith Gafael Llaw yr un pryd.” Bydd y cyngerdd yn apelio at bob chwaeth gerddorol, yn cynnwys caneuon sioeau cerdd, emynau Cymraeg a Saesneg, sprituals Americanaidd a darnau cyfoes poblogaidd. Bydd y corau’n canu rhai darnau gyda’i gilydd. Meddai Bryn Griffith, Cadeirydd Côr Meibion Caernarfon: “Rydym yn falch o helpu gwaith pwysig elusen Gafael Llaw a chroesawu Côr Meibion Croydon i dre’r Cofis. Ym mis Tachwedd byddwn innau yn ein tro yn ymweld â Croydon yn Ne Llundain.” Dywedodd Kim Ormond, Cadeirydd Côr Meibion Croydon: “Yn cynnwys gwragedd a phartneriaid, bydd bron i 90 ohonom yn aros yng Nghaernarfon. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ein hymweliad â Gogledd Cymru. Ar ein ffordd, byddwn yn canu yn Eglwys Gadeiriol Caer brynhawn Gwener 29 Mai. |
02.02.15 - CYNGERDD NOSON SANT FFOLANT YN NORTHWICH, SWYDD CAER
Byddant yn canu rhaglen amrywiol a phoblogaidd o glasuron Cymreig a chaneuon poblogaidd o sioeau’r West End dan arweiniad Delyth Humphreys, gyda Mona Meirion Richards yn cyfeilio. Hefyd yn cymryd rhan bydd Meinir Wyn Roberts, soprano ifanc dalentog o Gaernarfon. Enillodd Meinir radd dosbarth cyntaf yng Ngholeg Cerdd Manceinion yn ddiweddar. Yn 2014 hi oedd enillydd gwobr Rhuban Glas Osborne Roberts yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae bellach yn parhau gyda’i hastudiaethau yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain. Meddai Cadeirydd Côr Meibion Caernarfon, Bryn Griffith, “Ar Ddydd Gŵyl Sant Ffolant gobeithiwn hudo pobl Northwich gyda chanu gwefreiddiol. Ac rwy’n siŵr y cawn groeso twymgalon! “Bydd y cyngerdd yn dechrau am 7.30pm ac mae’r tocynnau’n £10 oddi wrth Drefnwyr Gŵyl Hearts of Northwich, Gordon ac Angela Atkinson heartsofnorthwich@gmail.com a Julian Williams ar 07919921708.” |
18.11.14 - CANU AM EU SWPER - SWPER AM EU CANU! Mae aelodau corau meibion yn gwneud llawer mwy na chanu. Wedi dychwelyd o ymweliad llwyddiannus â Galway yn Iwerddon mae dau aelod o Gôr Meibion Caernarfon rŵan yn brysur baratoi at ginio blynyddol y côr yn y flwyddyn newydd. Y ddau yw Douglas Willams o Bontnewydd a Gareth Thomas o Lanrug, aelodau o adran tenoriaid uchaf y côr. Gyda chymorth Edwin Williams o Frynsiencyn, un o’r baswyr cyntaf, maent wedi hen arfer trefnu’r cinio blynyddol. Nid dim ond y lleoliad, y bwyd a’r adloniant sydd ar eu plât. Fel rhan o’r digwyddiad maent yn codi arian sylweddol at achosion da. Meddai Gareth, “Eleni casglwyd £328.65 at Sefydliad Prydeinig y Galon. Y llynedd a’r flwyddyn cynt cyflwynwyd rhoddion anrhydeddus i Ambiwlans Awyr Cymru ac Ymchwil Cancr.” Medd Doug, “Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sy’n rhoi eitemau i’w rafflo ac yn prynu’r tocynnau. Byddwn ar eich hôl eto cyn bo hir i gefnogi elusen 2015.” Meddai Cadeirydd y Côr, Bryn Griffith, “Mae nosweithiau difyr a drefnir dan arweiniad Gareth a Doug yn enghraifft dda o’r hwyl cymdeithasol a geir , yn ogystal â’r canu a’r cyngherddau da. Ychwanegodd, “Hoffai Côr Meibion Caernarfon fedru cystadlu yn adran y corau mawr yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Cyffiniau ym Meifod fis Awst nesaf. Rydym felly yn awyddus i ddenu tua deg o aelodau newydd. ‘Does ‘run côr mawr o’r ardal hon wedi cystadlu yn yr adran yma’n ddiweddar, ac mae’n bryd i hynny newid.” |
14.10.14 A feast of Welsh music / Féasta de cheol na Breataine Bige. (Saesneg yn unig) 50 Welsh male voice singers and a harpist with a €60,000 golden harp will provide a feast of entertainment at the Town Hall Theatre, Galway on Friday 31 October, starting at 8.00pm. Côr Meibion Caernarfon will sing a varied and popular programme led by their conductor Delyth Humphreys and accompanist Mona Meirion Richards. The 9 times National Eisteddfod of Wales winners last appeared at the Town Hall 12 years ago. Said choir Chairman, Bryn Griffith, “Caernarfon in north west Wales is a World Heritage Centre because of our magnificent castle. The choir members come from a variety of occupations, including lawyers, teachers, mechanics, farmers, administrators and retired people. Every member speaks Welsh.” Bryn added, “We have fond memories of the great Irish welcome we received on our previous visit to Galway city including a standing ovation and several encores at the concert. “Performing with us this time will be the gifted harpist, Dafydd Huw. His golden harp is worth €60,000, but his musical talent is priceless. He will be playing music from the traditional to the modern, from Welsh folk-songs to musical show favourites.” |
15.09.14 Blwyddyn dda....a gwell i ddod! Yn ystod y flwyddyn aeth heibio ymunodd dwsin o aelodau newydd â Chôr Meibion Caernarfon. Bellach mae 60 ar y llyfrau. Ond wrth i’r côr ailymgynnull ar ddechrau tymor yr Hydref prysur, mae’r drws yn dal yn agored i aelodau newydd ym mhob llais. Meddai’r Cadeirydd, Bryn Griffith, “Dan arweiniad Delyth Humphreys a’n cyfeilydd Mona Meirion Richards, mae ysbryd da iawn yn y côr. Mae’n braf gweld cymaint o wynebau newydd – ifanc a hŷn -yn ein hymarferion dwy awr bob nos Fawrth yn Galeri, Caernarfon. “Ond nid da lle gellir gwell. Os oes gennych lais derbyniol rhowch gynnig ar ganu yn ein rhengoedd a chael blas ar yr hwyl. Cewch bob cymorth i setlo a dysgu caneuon poblogaidd. Mae’r flwyddyn gyntaf yn rhad ac am ddim i aelodau newydd.” Ychwanegodd Bryn, “Bydd y blynyddoedd nesaf yn gyffrous i Gôr Meibion Caernarfon wrth inni nesáu at ein 50 mlwyddiant. Mae gennym drip ar y gweill i Iwerddon ddiwedd mis Hydref eleni ac rydym yn trafod ymweliad â’r Iseldiroedd flwyddyn nesaf. “Daw’r rhan fwyaf o’n haelodau o dref Caernarfon a’r pentrefi cyfagos. Mae eraill yn teithio ymhellach o fannau fel Dwyfor ac Ynys Môn. Mae sawl aelod yn canu mewn corau eraill hefyd. “Mae yma weithwyr a chyn weithwyr o bob math o swyddi. Yn ogystal â chanu, mae’n lle ardderchog i gael cyngor a help gyda phob dim dan haul! “I ymaelodi, dewch i’n ymarfer nos Fawrth, siaradwch ag unrhyw aelod o’r côr, ffoniwch fi ar 01286 880291 neu gyrrwch neges drwy ein gwefan www.cormeibioncaernarfon.org Wnewch chi ddim difaru!” Lluniau a gair o brofiad tri o’r aelodau newydd - Emyr Davies, Rhun Dafydd a Gruff Lovgreen:
|
17.02.14 - AELODAU NEWYDD YN YMUNO Â CHÔR MEIBION CAERNARFON Mae wyth o aelodau newydd wedi ymuno â Chôr Meibion Caernarfon dros y ddeufis diwethaf gan godi cyfanswm y lleisiau i bron i chwe deg. Mae’r côr yn recriwtio aelodau i bob adran. “Ond”, medd y Cadeirydd Bryn Griffith, “er mor dda fu’r ymateb dechreuol, mae ein Cyfarwyddwr Cerdd, Delyth Humphreys, yn dal i chwilio am gantorion i atgyfnerthu bob llais, yn arbennig baswyr isaf a thenoriaid uchaf.” Ychwanegodd Bryn, “Braf gweld cymaint o bobl ifanc yn ymuno â’r côr. Y digwyddiad cyntaf i’r rhan fwyaf fydd Cyngerdd Elusen Cadeirydd Cyngor Gwynedd, Y Cynghorydd Huw Edwards - aelod ffyddlon o’r côr ers blynyddoedd - yn Galeri Caernarfon ar nos Sadwrn 8 Mawrth 2014.” Ymunodd Llywydd y Côr, Dr Huw Roberts, meddyg wedi ymddeol, â’r baritoniaid wedi blynyddoedd o wasanaeth yn y cefndir. Ac mae Now Parry o Gaernarfon - un o aelodau gwreiddiol Côr Meibion Ferodo - yn ôl yn rhengoedd yr ail denoriaid. Wrth apelio am fwy fyth o aelodau newydd, ychwanegodd Bryn Griffith, “Mae Côr Meibion Caernarfon yn lle da i ganu a chymdeithasu. Os oes gennych ddiddordeb, dewch i’n ymarfer am 7.45pm ar nos Fawrth yn Galeri, Caernarfon. Neu cysylltwch â’r côr drwy ein gwefan www.cormeibioncaernarfon.org”. |
Medi 2013 - Cynulleidfa yn Epsom wedi gwirioni ar Gôr Meibion Caernarfon! Roedd cynulleidfa frwd ar eu traed yn cymeradwyo Côr Meibion Caernarfon ar ddiwedd cyngerdd llwyddiannus yn Epsom Playhouse, Surrey, nos Sadwrn 21 Medi 2013. Roedd y theatr 450 sedd bron yn llawn gyda llawer o Gymry ac aelodau o gorau lleol yn y gynulleidfa. Dechreuodd y cyfan wedi i Gwen Saxby, un o stiwardiaid gwirfoddol y theatr, fynychu ymarfer y côr yn Galeri Caernarfon pan oedd ar wyliau yn y dref. Roedd ei chanmoliaeth mor frwd ar ôl dychwelyd i Epsom fel i reolwr y Playhouse, Elaine Teague, wahodd y côr meibion i ganu yn y dref. Meddai Elaine Teague, “Cafodd Gwen ei chyfareddu gan safon y canu a meddyliodd mai da o beth fyddai rhoi cyfle i drigolion Surrey flasu peth o draddodiad cerddorol Cymru. Rwy’n falch fod Côr Meibion Caernarfon wedi derbyn ein gwahoddiad i berfformio yn ein theatr hardd. Mwynhawyd eu sioe yn aruthrol gan bawb.” Wedi’r cyngerdd, nid oedd Gwen Saxby yn difaru o gwbl iddi berswadio rheolwr y theatr i archebu gwasanaeth y côr. “Roedd y cyfan yn hyfryd dros ben. Biti na fuasai’r perfformiad wedi para am awr arall!”, meddai. Meddai cadeirydd Côr Meibion Caernarfon, Bryn Griffith, “Arhosom am ddwy noson mewn gwesty yn Weybridge ac roedd y trip yn llwyddiant cymdeithasol yn ogystal â cherddorol. Roedd pawb yn garedig a chroesawgar a hoffem y cyfle i ailadrodd y profiad rywbryd eto.” |
Mehefin 2013 - Dau gôr ac aduniad rhyngwladol yng Nghriccieth nos Sul 7 Gorffennaf Nos Sul 7 Gorffennaf 2013 am 8pm yn Neuadd Goffa Criccieth bydd “Gwledd o Gân” mewn cyngerdd rhyngwladol gyda Chôr Meibion Cymry Toronto a Chôr Meibion Caernarfon. Bydd yr achlysur yn un arbennig o deimladwy i Gwyn Roberts, sefydlydd y côr o Ganada. Mae ef yn hanu o’r Fron ger Caernarfon a threuliodd 22 mlynedd fel aelod o Gôr Meibion Caernarfon, deg ohonynt fel ei Gadeirydd. Oherwydd ei gyfraniad unigryw y ddwy ochr i Fôr Iwerydd, gwnaed Gwyn Roberts yn aelod anrhydeddus am oes o’r ddau gôr meibion. Meddai, “Treuliais bron i 40 mlynedd yn gweithio o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru cyn symud i fyw i Ganada. Roeddwn yn hiraethu am Gymru a chanu corawl ac felly galwais ynghyd griw o Gymru alltud gyda’r un diddordebau a sefydlwyd Côr Meibion Cymry Toronto yn 1995. Ychwanegodd Gwyn, “Penllanw misoedd lawer o drefnu yw’r daith bresennol i Gymru. Cyngerdd Criccieth ar 7 Gorffennaf gyda Chôr Meibion Caernarfon yw’r cyntaf mewn cyfres o chwech. Ar y 9/7 byddwn yn Y Stiwt, Rhosllannerchrugog gyda Chôr Meibion Y Rhos ac ar 11/7 yn Ysgol y Berwyn Y Bala gyda Chôr Meibion Llangwm. “Yna teithiwn i’r de gan ganu ar 14/7 yn Nhredegar, 16/7 ym Mhendyrys ac 19/7 yn Llantrisant – ym mhob achos mewn cydweithrediad â’r corau meibion lleol.” Meddai Bryn Griffith, Cadeirydd presennol Côr Meibion Caernarfon, “Bu Gwyn yn was ffyddlon i’r côr hwn ac yn driw iawn i’w ardal enedigol ar ôl symud i Canada. Gweithiodd yn galed i sicrhau llwyddiant taith Côr Meibion Caernarfon i Ganada rai blynyddoedd yn ôl.” |
Mai 2013 - Gwanwyn rhyngwladol Côr Meibion Caernarfon Mae’n wanwyn rhyngwladol prysur i Gôr Meibion Caernarfon! Meddai’r Cadeirydd, Bryn Griffith, “Roedd ein cyngerdd fis Mai yn Theatr Seilo gyda Chôr Meibion Hengelo o’r Iseldiroedd yn llwyddiant ysgubol a chafwyd noson gymdeithasol ddifyr iawn i ddilyn. “Ddechrau Mehefin, byddwn yn canu mewn un o gyfres o gyngherddau i ymwelwyr yn Eglwys St John, Llandudno, ac yna gyda chôr o bobl ifanc o’r Unol Daleithiau yn Eglwys Gatholig Caernarfon ganol y mis. Yn wythnos gyntaf Gorffennaf, croesawn Gôr Meibion Cymry Toronto i’r ardal. Gwyn Roberts, un o gyn gadeiryddion Côr Meibion Caernarfon, a sefydlodd y côr o Ganada.” “I barhau yn y cywair rhyngwladol, rhown berfformiad byr bob nos Fawrth i ymwelwyr gwerthfawrogol yn rhan gyntaf ein hymarferion wythnosol yn Galeri Caernarfon. Cawn geisiadau rheolaidd i fynychu ymarferion drwy ein gwefan. “Mae Stiwdio 2 yn Galeri yn aml dan ei sang. Daw grŵp o Americanaidd atom yn rheolaidd a’r wythnos diwethaf roedd criw o’r Almaen yno hefyd yr un pryd.” Ychwanegodd Bryn Griffith, “Mae corau meibion yn atyniad twristaidd poblogaidd a phleser yw dangos diwylliant Cymru i ymwelwyr o bob rhan o’r byd. Trwy brynu ein CDs, dychwelant adref ag atgofion melys o’u arhosiad yn nhre’r Cofis.” |
Ebrill 2013 - Côr Meibion o’r Iseldiroedd yn canu yng Nghaernarfon Nid dim ond blodau sy’n dod o’r Iseldiroedd i Gymru y gwanwyn hwn. Bydd côr meibion enwog o’r wlad honno hefyd yn ymweld â Chaernarfon ddechrau Mai. Sefydlwyd côr KHM (Côr Meibion Brenhinol Hengelo) dros 125 mlynedd yn ôl yn 1886. Mae ganddo 70 aelod ac mae ei repertoire amrywiol yn cynnwys caneuon poblogaidd o fyd opera i sioeau cerdd, caneuon gwerin a charolau. Meddai Dafydd Les Hughes, Ysgrifennydd Côr Meibion Caernarfon, sy’n trefnu’r rhan hon o’r daith, “Bydd Côr Hengelo a’u teuluoedd yn yr ardal rhwng Mai 2-6 gan berfformio mewn cyngerdd “Gwledd o Ganu” yn Theatr Seilo, Caernarfon ar nos Sadwrn 4 Mai, yn dechrau am 7.30 pm. Bydd dros 100 o bobl yn y grŵp i gyd ac edrychwn ymlaen at eu croesawu, cydganu a chyd-gymdeithasu. Mae’r tocynnau’n siŵr o fod yn brin felly brysiwch i’w harchebu o Palas Print, Caernarfon neu unrhyw aelod o Gôr Meibion Caernarfon. Y pris yw £5.” Ychwanegodd Dafydd Les, “Mae tref Hengelo yn agos i’r ffin â’r Almaen. Gyda phoblogaeth o dros 80,000, mae’n ganolfan bwysig ar yr A1/E30 o Amsterdam i Foscow. Bomiwyd y dref yn helaeth yn ystod yr ail ryfel byd ond bellach mae’r siopau a’r canolfannau diwylliannol niferus yn ffynnu unwaith eto.” |
Ebrill 2013 - Cadeirydd newydd Côr Meibion Caernarfon Cadeirydd newydd Côr Meibion Caernarfon yw Bryn Griffith, o Plas Felin Gerrig, Llanllyfni – Bryn Plas, fel y mae pawb yn ei adnabod. Bu’n aelod o’r côr ers dros ugain mlynedd. Meddai Bryn, “Ers imi ymddeol o’m gwaith fel Rheolwr Datblygu gyda Chymdeithas Tai Eryri mae gen i fwy o amser i ganolbwyntio ar fy niddordebau eraill - ffarmio, canu a bod yn daid i ddau o blant. Ychwanegodd, “Yn adran y baritons, rhoddodd y côr gyfle imi ddysgu caneuon o bob math a theithio’n eang ym Mhrydain a thu hwnt. Ond, yn llawn mor bwysig, mae’n lle ardderchog i wneud ffrindiau da - cefais groeso twymgalon o’r diwrnod cyntaf.” “Mae’n anrhydedd fawr cael fy ethol yn Gadeirydd côr mor lwyddiannus. Dymunaf ddiolch i’m rhagflaenydd Dafydd Jones am lenwi’r swydd gydag urddas a hiwmor dros y ddwy flynedd diwethaf.” |
Nos Sul Medi 23 2012 Cawsom ein cyngerdd cyntaf ar ôl gwyliau'r Haf yn Eglwys Santes Fair, Betws y Coed yng ngwydd cynulleidfa lawn a brwdfrydig. Hwn oedd yr olaf o gyfres o gyngherddau a gynhelir yn flynyddol rhwng Gorffennaf a Medi i ddiddanu ymwelwyr i'r ardal a Chôr Meibion Caernarfon fel rheol sy'n cloi'r gyfres. Rydym fel arfer yn rhoi cyfle i enillydd Canwr Ifanc y Flwyddyn Caernarfon (a noddir gan y Côr) i gadw cyngerdd gyda ni ond eleni rhoddwyd cyfle i'r gantores ifanc o Baradwys Ynys Môn, Lucy Kelly i gadw cwmni i ni. Fe ganodd deg o ganeuon i gyd yn Gymraeg a Saesneg gyda llawer ohonynt o sioeau cerdd adnabyddus a chafodd groeso mawr gan y gynulleidfa. Mae'r Côr yn ymarfer yn Galeri Caernarfon bob nos Fawrth - mae croeso i aelodau newydd ac ymwelwyr i ymuno â ni am 7.45yh |
Dyddiadau i'w nodi: Medi 23ain am 8yh Cyngerdd Eglwys Santes Fair, Betws y Coed Rhagfyr 7fed am 7.30yh Cyngerdd Nadolig Blynyddol y Clwb Rotari Santes Fair, Caernarfon |
Ymweliad i’r Almaen Un o uchafbwyntiau 2011 oedd ymweliad y côr â’r Almaen rhwng 26 Gorffennaf ac 1 Awst. Cafwyd tri chyngerdd llwyddiannus, un ohonynt yn yr eglwys lle priododd Johann Sebastian Bach. Gwahoddwyd y côr i dalaith Turinga gan ymwelwyr a ddaeth i ymarfer y côr yn Galeri, Caernarfon. Yn ogystal â’r cyngherddau, ymwelodd y côr â dinas Berlin a charchar rhyfel Colditz. |
Wedi trin a thrafod ers misoedd, dyma wefan newydd y Cor yn barod i’w lansio o’r newydd. Hoffai’r Cor ddiolch i gwmni Delwedd, (www.delwedd.co.uk) gwneuthurwyr tudalennau gwe o Gaernarfon, am noddi’r Cor trwy greu y wefan newydd a’i chartrefu i ni yn rhad ac am ddim. Cawsom ein cyngerdd cyntaf ar ol gwyliau’r haf eleni ar y 10fed o Fedi yn Venue Cymru, Llandudno pan y buom yn diddori tua 400 o fyfyrwyr a darlithwyr Coleg Menai a nifer o golegau eraill mewn noson wobrwyo. Yn dilyn hyn cafodd nifer o aelodau’r Cor gyri poeth a Cobra neu ddau yn un o fwytai Indian gorau y dref! |
Ar Fai 15fed 2010 cawsom gyngerdd llwyddiannus iawn yn Wordsley, ger Birmingham. Hwn yw’r trydydd tro i’r cor gael gwahoddiad i ganu yn Wordsley, ac fel arfer roedd yr eglwys yn llawn, a’r gynulleidfa yn frwdfrydig iawn. Gwerthwyd o leiaf dwsin o CDs ar y noson. Bu y rhan fwyaf o’r hogiau yn aros dros nos, a cafwyd noson hwyliog iawn. |
Mawrth 14 2009 Cyngerdd yng Nghaernarfon gyda Cor Kidderminster |
Medi Arweinyddes Newydd i’r Côr Ar yr 2il o Fedi dechreuodd Delyth Williams o’r Groeslon ger Caernarfon fel arweinyddes newydd ar y côr. Mae Delyth yn 29 ac yn athrawes gerdd yn Ysgol Eifionydd, Porthmadog. Gobeithiwn y bydd ei phrofiad o arwain a dysgu plant bach yn gymorth iddi tra yn ceisio cael trefn ar lond ystafell o hogia’r côr ( ambell un wedi dweud nad oes llawer o wahaniaeth !!!!) |
Gorffennaf Cyngerdd olaf Menai Williams gyda’r Côr Y cyngerdd yn Landerne a’r recordiad gyda Bryn Terfel oedd y tro olaf i Menai Williams arwain y côr. Mae Menai wedi penderfynu ymddeol o swydd yr arweinydd wedi 15 mlynedd o arwain Côr Meibion Caernarfon. Mae ein diolch yn fawr iddi am yr hyn y mae hi wedi ei gyflawni gyda’r côr, gan ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol sawl gwaith, ond hefyd am godi safon cerddorol y côr cryn dipyn. O dan ei harweiniad mae Côr Meibion Caernarfon wedi dod yn enwog am y swn y mae y côr yn gallu ei gynhyrchu, ac edrychwn ymlaen i glywed ffrwyth ei llafur ar y CD newydd. (gweler lluniau o’r noson olaf ar yr Albwm) Recordio gyda Bryn Terfel, Caernarfon I ddod a tymor y côr i ben yn Haf 2008 buom yn recordio can gyda Bryn Terfel fel unawdydd. Recordiwyd y gan yn ein ystafell ymarfer yn Galeri, Caernarfon a bydd ar y teledu rhywbryd yn yr Hydref. Veterans Day Caernarfon Fel y llynedd cafodd y côr wahoddiad i ganu yn y ‘Veterans Day’ yng Nghaernarfon, sef diwrnod arbennig i goffau a dathlu ein lluoedd arfog. Trip i Brest a Landerne yn Llydaw Rhwng y 10fed a’r 14eg o Orffennaf aeth y Côr ar daith i Llydaw, gan ymweld a dinas Brest a thref Landerne, sydd wedi ei gefeillio a Chaernarfon. Roeddem yn aros yn Brest a cawsom weld Brest2008 sef gwyl forawl gyda cannoedd o gychod o bob maint – diddorol iawn, ac wedyn buom yn cymeryd rhan mewn gwyl o ganu a dawnsio drwy strydoedd Landerne cyn canu mewn cyngerdd yn yr eglwys yn Landerne ( gan fynd ar y llwyfan am 11.45 y nos !!!) Yn ystod y cyngerdd cannodd y Côr anthem Llydaw, sydd ar yr un dôn a Hen Wlad fy Nhadau. (gweler lot o luniau yn yr Albwm) |
Mawrth hyd Gorffennaf Recordio CD newydd Yn ystod y flwyddyn mae’r côr wedi bod yn recordio caneuon ar gyfer CD newydd fydd allan cyn bo hir (gweler lluniau ar yr Albwm) |
Mehefin Cyngerdd gyda Cor Merched y Rhos Ar yr 21ain o’r mis cynhaliwyd cyngerdd yn Eglwys y Santes Fair, Caernarfon gyda Côr Merched y Rhos o Rhosllannerchrugog. Côr arbennig iawn yw Côr Merched y Rhos ac roedd canmoliaeth mawr i’r cyngerdd, ond braidd yn annodd yw dod o hyd i wybodaeth amdanynt ar y we – hen bryd iddyn nhw gael gwefan !! Cafwyd noson hwyliog iawn yn y Clwb Hwylio yng Nghaernarfon wedyn. |
Mai Cyngerdd yn Wordsley Cyfle arall i gynnal cyngerdd yn Wordsley. Mae’r Côr wedi cael sawl gwahoddiad i’r ardal hon i ganu ac fel arfer roedd yr eglwys ( a’r car park ) yn llawn i’r ymylon. Cawsom noson ddiddorol iawn mewn tafarn leol wedyn gyda tomen o ‘chips’ i fwyta. (gweler lluniau yn yr Albwm) |
Ebrill Cyngerdd y Samariaid Gan fod un o hogia’r côr yn gweithio i’r Samariaid, trefnodd gyngerdd i’w cefnogi, a cymerodd y côr ran gyda Band Pres Ieuenctid Gwynedd a Môn, band ifanc arbennig iawn, o safon uchel. |
Mawrth Cyngerdd yn Swindon Cynhaliwyd cyngerdd llwyddiannus iawn yn Swindon gyda Côr Meibion Swindon ac wedyn cafwyd noson o ganu gan y ddau gôr mewn gwesty lleol, cyn cychwyn ar y siwrne hir adref y diwrnod canlynol. Mae Côr Meibion Swindon am ddod i Gaernarfon i ganu yn 2009. (gweler lluniau yn yr Albwm) |
Chwefror Cyngerdd yn yr Amwythig Cynhaliwyd cyngerdd yn y Music Hall yn yr Amwythig ar y 23ain o Chwefror i ddathlu Dydd Gwyl Dewi. Yr unawdwyr oedd y tenor Robin Lyn Evans a’r soprano Gwawr Edwards, gyda ei chwaer Menna Rhys Griffiths yn cyfeilio. Cafwyd noson hwyliog iawn wedyn yng nghwmni Cymry yr Amwythig ac hefyd y tenor enwog Dafydd Edwards, sef tad Gwawr a Menna. http://www.bbc.co.uk/cymru/eisteddfod2007/sites/lluniau-sadwrn2/pages/lluniau_sadwrn.shtml?12 - Robin Lyn Cyngerdd Dathlu y Côr yn 40 oed I ddathlu penblwydd y Côr yn 40, trefnwyd cyngerdd arbennig yn Galeri, Caernarfon ar yr 2il o’r mis gyda unawdwyr o’r safon uchaf, sef David Kempster Bariton, a Sarah-Jane Davies, Soprano â’r cyfeilydd arbennig Annette Bryn Parri. Wedi ei geni yn Ne Cymru, cafodd Sarah ei haddysg cynnar yng Nghaernarfon. Mae’n soprano gyda dyfodol disglair o’i blaen a bu yn cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth ‘Cardiff Singer of the World’ yn 2007. http://www.bbc.co.uk/wales/cardiffsinger/sites/2007/pages/wales.shtml Mae David Kempster sydd yn dod o’r Waen (Chirk ) yng Ngogledd Cymru hefyd wedi cynrychioli Cymru yn y ‘Cardiff Singer of the World’ yn 1999 ac yn ddiweddar bu yn canu mewn cyngerdd i ddathlu Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. http://www.hazardchase.co.uk/artists/david_kempster Mae’r côr yn hen gyfarwydd a’r cyfeilydd Annette Bryn Parri gan ein bod wedi canu ar yr un llwyfan a hi sawl gwaith, ac mae hi yn un o’r cyfeilyddion gorau yn y wlad. http://cy.wikipedia.org/wiki/Annette_Bryn_Parri Bu’r cyngerdd yn llwyddiant mawr, ac yn awr edrychwn ymlaen at gyngerdd i ddathlu’r hanner cant !!! |
Ionawr Cinio Dathlu y Côr yn 40 oed Ar y 19eg o Ionawr daeth pawb oedd yn gysylltiedig a’r Côr ynghyd yng ngwesty y Celtic Royal yng Nghaernarfon i ddathlu penblwydd y Côr yn 40. Cafwyd noson lwyddiannus iawn gyda bwyd bendigedig, ac wedyn cyflwynwyd tystebau i aelodau a oedd wedi bod gyda’r Côr ers y dechrau, ac i’r Arweinyddes a’r Gyfeilyddes. Y siaradwr gwadd oedd Winstone Roddick C.B., Q.C. sydd yn un o Is-Lywyddion y Côr. Ar ddiwedd y noson ac ar ol iddynt orffen eu cyngerdd yn y Galeri daeth Côr Rhuthun i ymuno a ni a cafwyd noson hwyliog iawn o gyd-ganu i ddathlu ein penblwydd. (gweler lluniau ar y dudalen Albwm) |
Rhagfyr Cyngerdd Nadolig Rotary Caernarfon Ar y 7fed o Ragfyr cynhaliwyd cyngerdd i ddathlu’r Nadolig yn Eglwys Santes Fair, Caernarfon dan nawdd Clwb Rotari y dref. Diddanwyd y gynulleidfa hefyd gan Côr Cofnod sef côr merched o ardal Caernarfon a gan yr unawdydd. |
Hydref Diddanu Cynhadledd yn Venue Cymru, Llandudno Ar yr ail o Hydref bu'r côr yn diddanu tua 400 o bobl o'r diwydiant twristiaid oedd wedi dod i gynhadledd yn Venue Cymru, Llandudno ar wahoddiad y Cynulliad. Roedd pobl yna o bob rhan o'r byd ac roedd ganddynt ddiddordeb mawr mewn dysgu mwy am y côr a'r traddodiad corawl yng Nghymru. (gweler y dudalen Albwm) |
Medi Cyngerdd yn Eglwys y Santes Fair, Betws y Coed Ar ddiwrnod olaf Medi bu’r cor yn canu yn y cyngerdd blynyddol y Eglwys y Santes Fair, Betws y Coed, i gloi eu cyfres o gyngherddau corawl, ac fel arfer roedd yr eglwys yn llawn, yn cynnwys ymwelwyr o 14 o wledydd er engraifft Awstralia, America, Seland Newydd ac eraill. Dioch i’n unawdydd Meinir Roberts, cantores ifanc gyda llais arbennig iawn. Am ychydig o luniau gweler y dudalen albwm, ac i’r rhai ohonoch sydd ddim yn gyfarwydd a’r ardal hardd o gwmpas Betws y Coed dyma dudalennau gwe sydd yn disgrifio’r ardal. http://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddorllewin/safle/betwsycoed/pages/lluniau.shtml?4 Cyngerdd gyda Côr Meibion Bedyddwyr Tennessee Ar yr 22ain o Fedi bu Côr Meibion Bedyddwyr Tennessee yn canu gyda’n côr ni mewn cyngerdd mawreddog yn Neuadd Pritchard Jones ym Mangor. Mae’r côr yn cynnwys aelodau o ardal faith ar draws talaith Tennessee, ac er nad ydynt yn ymarfer gyda’u gilydd dim mwy na 4 gwaith bob blwyddyn roedd swn arbennig iawn ganddynt. Bu’r côr ar daith am rhyw 10 diwrnod ar draws Gogledd Cymru yn canu mewn sawl capel ac mewn cyngherddau gyda Côr Meibion y Traeth a Côr Meibion y Rhos hefyd. Roedd yr hogia wedi eu synnu o glywed trefnydd eu taith yn siarad gyda’n côr ni mewn Cymraeg pur er ei fod yn Americanwr, ac wedyn o weld bod y rhaglen a clawr eu CD yn hollol ddwy-ieithog Cymraeg a Saesneg – da iawn fo ! (gweler lluniau) ac am fwy:- |
Gorffennaf Diwrnod y ‘Veterans’ yng Nghaernarfon Ar y 14eg o Orffennaf roedd tref Caernarfon yn llawn o gyn-aelodau o’r Lluoedd Arfog yn dathlu diwrnod arbennig y ‘Veterans Day’ i gofio am bawb fu yn rhan o’r lluoedd hyn dros y blynyddoedd. Cynhaliwyd Gwasanaeth awyr agored yng nghwmni Maer Caernarfon a nifer o wahoddedigion eraill cyn symud ymlaen i babell arbennig ar y Cei Llechi lle bu’r côr yn diddanu y gynulleidfa (gweler y dudalen Albwm) Cyngerdd gyda Cor L’Essenelle o Wlad Belg Ar y 13eg o Orffennaf daeth Cor L’Essennelle o dref Esneux ger Liege yng Ngwlad Belg i ganu yn Eglwys Santes Fair yng Nghaernarfon. Cafodd y côr ei sefydlu yn 1961 ac yn 1977 daeth yn rhan o “A Coer Joie” a dewis yr enw L’Essennelle. Mae’r cor yn canu cymysgedd o gerddoriaeth glasurol, crefyddol, gwerinol, traddodiadol a jazz. Ar ôl y cyngerdd cawsom glywed mwy o’r côr yn canu gyda’n hogia ni yn y Clwb Hwylio, a diolch i’r clwb am baratoi swper bendigedig. (gweler y dudalen Albwm) |
Mehefin Cyngerdd gyda Band y Gwarchodlu Cymreig Ar yr 28ain o Fehefin bu’r côr yn cymeryd rhan mewn cyngerdd gyda Band y Gwarchodlu Cymreig yn Galeri, Caernarfon. Bu’r cyngerdd yn rhan o’r ‘Welsh Guards Band Kape Tour’ ac roedd yn llwyddiant mawr gyda’r gynulleidfa. Noson Gymdeithasol yn lle Vernon Ar y 16eg o Fehefin cawsom noson gymdeithasol i'r côr yn 'lle Vernon' sef Llain Meddygon ac mae'n diolch yn fawr i Vernon ( ail Denor ) am llnau'r sied ddefaid a pharatoi lleoliad mor addas. Cawsom fwyd bendigedig ( Rhostio Mochyn ) ac adloniant gan Hogia'r Bonc, sef criw o hogia o ardal Bethesda sydd yn canu caneuon gwerin a phoblogaidd Cymraeg. Diolch hefyd i Walt ( ail denor yn ein cor ni ac aelod o Hogia'r Bonc ) am ddod a'r hogia i ganu. |
Noson Hwyliog gyda Côr o Norwy Ar ddechrau Mai daeth côr cymysg o Langhus yn Norwy ar daith i Brydain a’i ymweliad cyntaf oedd efo tref Caernarfon. Roeddent wedi gofyn am gael cyfarfod hogia ein côr ni a’r noson honno cawsom noson hwyliog iawn o ganu yng ngwesty y Stables, Llanwnda. Pwy a wyr efallai y cawn ni wahoddiad i Norwy rhywbryd. |
Pwyllgor newydd a Chadeirydd newydd i’r côr
Cadeirydd – Owain Wyn Etholwyd Owain Wyn (Bâs 1) i fod yn Gadeirydd am y ddwy flynedd nesaf. Yn wreiddiol o Ynys Môn mae Owain Wyn wedi ei hyfforddi fel Cynllunydd Trefol ac mae yn awr yn gweithio ar ei liwt ei hun yng Nghaernarfon fel Ymgynghorydd Busnes. Mae Gwasanaethau Ymgynghorol Owain Wyn ebost – owainwyn@globalnet.co.uk Mae’n aelod ffyddlon o’r côr ers blynyddoedd ac yn awr mae ganddo ddwy flynedd brysur o’i flaen gan fod y côr yn dathlu 40 mlynedd ers ei sefydlu eleni ac mae llawer o ddathliadau ganddom ar y gweill dros y ddwy flynedd nesaf. Prif Swyddogion y Côr
Pwyllgor y Côr
|
Cyngerdd Dydd Gwyl Dewi Ar Ddydd Gwyl Dewi eleni cawsom gyngerdd yng Nghanolfan newydd Bro Llanwnda a adeiladwyd yn ddiweddar. Roedd yn noson llwyddiannus iawn gyda’r côr yn canu gyda dau unawdydd, sef Casi Wyn ar y delyn. Cawsom groeso a gwledd fendigedig gyda swyddogion y ganolfan ar ôl y cyngerdd. Yn dilyn llwyddiant y noson, mae’r côr wedi penderfynu ceisio trefnu nifer o Gyngherddau Bro yn y dyfodol, mewn neuaddau o gwmpas Caernarfon. |
Taith i Sweden Dychwelodd hogia’r Cor yn ddiweddar o daith braf iawn i Linköping a Stockholm yn Sweden, lle roeddym yn canu mewn cyngerdd yn y Missionskyrkan yn Linköping. Cawsom gymorth gan Sioned Webb fel cyfeilyddes a Dafydd Huw fel unawdydd ar y delyn. Hoffai’r Cor ddiolch i’r ddau ohonom am eu gwaith gwych, ac i Sioned yn arbennig am lenwi i mewn ar y munud olaf. |
Hydref 2006 - Canmol mawr ar y Côr Bu ‘na ganmol mawr ar y Côr yn ddiweddar yn dilyn ei ymddangosiadau ar lwyfan a theledu. Ar Ebrill 1af fe ymddangosodd y Côr gyda Bryn Terfel, Catrin Finch ac eraill ar noson agoriad swyddogol Y Galeri (galericaernarfon.com).Fe ganodd dwy gân gan gynnwys Caernarfon – wyt ti fwy n thref i mi. Ac ar nos Sadwrn Ebrill 30ain fe ganodd y Côr y gân eto ar raglen Noson Lawen S4C. |
Iolo W. Thomas (Ysgrifennydd y Côr)
Bodafon
Ffordd y Gogledd
Caernarfon
LL55 1BE
Rhif Ffôn: 01286 675333
ebost: iolowatcyn@gmail.com
Hawlfraint © 2019 Côr Meibion Caernarfon. Gwefan gan Delwedd